Hiram Davies D.C.M. (WELSH)
 

CLICK HERE TO SEE THIS PAGE IN ENGLISH

Ganned Hiram Davies ar y 27ain o Ionawr 1888 yn 15 Brick Row, Llwydarth, Maesteg, yn unig fab David Davies, a Mary Jane Davies (nee Rees). Er iddo rhannu penblwydd gyda Wolfgang Amadeus Morzart, does dim cofnod ei fod yn dawnus yn cerddorol, nid fel ei famgu. Fe fu ei famgu sef Margaret Jervis (priododd hi Thomas Davies yn 1857) yng nghapel Tabor, Maesteg y noson cannwyd Hen Wlad fy Nhadau am y tro cyntaf yn cyhoeddus ar Ddydd Gwyl Dewi 1856, yn wir chwedl yn y teulu mae hi oedd y brif gantores yn y cyngerdd y noson hanesyddol yna, yn ol census 1851 ei gwaith oedd “coal tipper”. Bu farw ei dad, David, gof o rhan ei alwad, ym 1891, yn 24 mlwydd oed a’r mab ond yn tair blwydd oed. Ailbriododd ei fam, Mary Jane, ond yng nghwmni ei famgu Mrs Sarah Rees (nee Harris), y magwyd Hiram yn 3 Gwedoline Terrace yn Llwydarth. Wedi iddo basio’r prawf cymhwyso, gadawodd yr ysgol yn ddeuddeg oed a mynd i weithio yn y pwll glo y Garth.

Hiram Davies - Black and white photo

Ar ddechrau’r Rhyfel Mawr, ‘roedd Hiram ar ei wyliau blynyddol yn Blackpool. Ysgrifennodd at ei famgu ar gefn cerdyn post (a’i lun yntau a’r criw a aeth yno gydag ef). Wedi dychwelyd o’i wyliau, gweithiodd Hiram a chynilo digon i gadw’i famgu am gyfnod, wedyn aeth i ymuno a’r 10fed Mintai y Catrawd Cymreig, Cyngrhair y Rhondda, gyda ei lysfrawd 21689 Illtyd Williams ar yr 11fed o Dachwedd 1914, ond fe trosglwyddwyd Illtyd I 8fed Mintau y South Wales Borderers yn fuan ar ol ymaelodi. Yn ol fy nhad fe ymunodd Hiram a’r Rhyfel er mwyn rhyddhau’r gwledydd bach a oedd wedi ei goresgyn gan y gwledydd mawr.

 Recriwtiwyd y 10fed a’r 13 Mintai o blith glowyr De Cymru gan fwyaf o Cwm Rhondda gan David Watts Morgan aelod seneddol dros Ddwyrain Rhondda, ac yna fe ddaeth yn IS-Gyrnol yn y fyddin. Dechreuodd Watts Morgan ar daith recriwtio trwy’r ardal yn 1914, gan annog y glowyr i ymrestru ac ymladd. Enillodd y CBE am ei ymdrechion recriwtio, a’r DSO am ei ddewder milwrol ym Mrwydr Cambrai yn 1917. Rhodddwyd y 10fed a’r 13 Mintai ynghyd ar ddechrau’r Rhyfel Mawr i ffurfio’r 114fed Frigad, a oedd yn cynnwys hefyd y 14eg Mintai (Abertawe) a’r 15fed Mintai (Sir Gaerfyrddin), yn ogystal a Ffiwseliars Frenhinol Cymru, a cydnabuwyd nhw fel rhan o’r ’38 Adran Cymreig “y Fyddin Gymreig” neu “Fyddin Lloyd George”. ‘Adnebyddwyd milwyr y Byddin Cymreig gan bathodyn y DDraig Goch, yr oeddent yn gwisgo ar llewys ei cotiau milwrol.

Erbyn 1915 ‘r oedd Cymru wedi cyfrannu 14%  o’i dynion ifanc i’r fyddin, I gymharu a12% o’r Alban, 11% o Lloeger a 7% o’r Iwerddon.

Fe dreiliodd y 38fed yr hanner cyntaf 1915 yng Ngogledd Cymru, yn Pwllheli a Prestatyn, yn hyfforddu i fod yn filwyr heb unrhyw arfau. Yn ystod yr amser yma fe ddaetth Hiram yn pencampwr paffio y 10fed Mintau. Yn ystod mis Awst fe trosglwyddyd nhw i Winchester, lle ‘roedd gwell maesydd hyfforddu. Yn mis Tachwedd daeth y gorchymyn i’r 38th paratoi i fynd i Ffrainc, ac felly bu’n rhaid i pob milwr saethu 24 rownd ar maesydd Salisbury Plain, ac ‘roeden nhw’n barod i brwydro! Fe adawodd Hiram Winchester ar yr ail o Rhagfyr (chwedl yw fod y swyddog oedd yn ei arwain ar y “march” o Winchester I  Southampton, wedi colli ei ffordd!), ac fe laniodd yn Le Harve (via Southampton) ar y 3ydd o Rhagfyr, ac fe aeth i’r ffosydd am y tro cyntaf yn Richburg ar y noson o’r 13ydd o Rhagfyr.

Yn ystod ei gyfnod yn y fyddin, fe welodd Hiram “action” yn Ffrainc a Belg, yn y Somme, Ypres, Mametz Wood, Armetrier’s ac Albert i enwi ond ychydig. Fe fu Hiram yn ffodus i fyw trwy’r hunllef, er iddo cael ei niweidio gyda ymysodiadau nwy mwstard tair gwaith, Ypres 1916, Armetier’s 1917, a Albert 1918. Ond fe fu farw aelodau ei deulu yn ystod y Rhyfel Mawr. Fe laddwyd ei lysfrawd Illtyd, ar yr 8fed o Fai 1917 ym Mrwydr Dojran yn tair ar hugain oed, ac fe gladdwyd ym Mynwent Milwrol Karasouli yn Selonica; yn ogystal fe fu farw ei cefnder, 37958  Albert Joseph Rees, aelod o Catrawd Dwyrain Efrog o'r twymyn ar yr 11fed o Ionawr 1918 yn 20 mlwydd oed yn Selonica, mab ifancaf Mr Joseph Rees, cyn rheolwr Gweithdy Tinplate Maesteg.

Inside St. Martins Cathedral

Ar ol y Rhyfel dychwelodd Hiram i Gwm Llynfi, a phriododd ef a Mary Beatrice Miles o Blwyf Llangynwyd, ac roedden nhw’n byw yn gyntaf yn Llety Brongu lle ganwyd eu unig plentyn David ar y 17fed o Hydref 1929, ac yna yn Gelli Eblig yn Pontrhydycuff. Ar ol dioddef nifer fawr o flynyddoedd o afiechyd, (oherwydd y clwyfau a dioddefodd gan yr ymosodiadau nwy mwstard yn ystod y Rhyfel Mawr) fe fu farw Hiram yn Ysbyty Maesteg ar y 16ed o Fehefin 1943, yn 55 oed. Mae Hiram wedi ei claddu ym mynwent Llangynwyd gyda’i dad a’i annwyl wraig Beatrice.

Brwydr Coedwig Mametz Gorffennaf 1916.

Heb yn wybod iddo fe cafodd Hiram dynlawad ar brwydr y Somme Gorffennaf 1916. Ar ddydd Sul y 5ed o Fawrth, fe secondiwyd Hiram i’r 19fed Mintau o’r Catrawd Cymreig, neu’r “Pioneers”. Pwrpas y “Pioneers” oedd cloddio odan safle’r elyn a gosod ffrwydrau. ‘R oedd hwn yn gwaith peryglus, fe fu nifer o achosion lle fu’r cloddwyr yn ymladd y gelyn yn y twnelau! Fe fu Hiram yn cloddio yn Givenchy a Lavantie. Yn ol Amgueddfa y Rhyfel Mawr yn Albert, yr 19fed Mintau oedd wedi cloddio a paratoi y ffrwydrad mwyaf a ffrwydodd ar y 1af o Orffennaf 1916, sef Cawg Lochnagar (Lochnagar Crater). Ffrwydrwyd 66,000 o bwysau o ammonal 52 o droedfeddau o dan y ddaear, gan gadael cawg 90 llathen ar draws, a dyfnder o 70 o troedfeddau. Fe clywyd y ffrwydrad yn LLundain! Fe ail ymunodd Hiram gyda’r 10fed Mintau ar y 10fed o Fehefin.

Mae Brwydr Coedwig Mamets, a ymladdwyd rhwng y 7fed a’r 12fed o Orffennaf, yn arwyddocaol am gwpwl o resymau:

Dyma’r tro cyntaf i’r 38fed Adran, “Byddin Cymru” neu “Fyddin Lloyd George” ymladd ei brwydr ei hun;

Dyma’r nifer fwyaf o anafiedig neu farw i’r 38fed ddioddef mewn unrhyw frwydr.

Cafodd 4,000 o filwyr eu lladd neu eu hanafu o achos yr ymdaith hunllefus i fyny bryn agored yn wyneb dryllau peiriannol a magnelau’r gelyn.

Dechreuodd y frwydr ar y 7fed o Orffennaf pan symudodd aelodau’r 14eg Bataliwn o’r 38fed at goedwig sylweddol Mamets dros dir agored, wedi gadael Coedwig Lindy a Choedwig Marlboro o’r gorllewin, dan orchymyn strategol y Cadfridog Haig.

Y nod oedd anfon traedfilwyr y 38fed i ddal y goedwig. Trichan llath o’r goedwig, roedd cyflafan wrth i fagnelau trwm a dryllau peiriannol weithio yneu herbyn. Bu’n rhaid i’r milwyr nas anafwyd a nas lladdwyd ffeindio lle i guddio neu ddychwelyd.

Dechreuodd yr ail ymosodiad ar Ddydd Llun y 10fed o Orffennaf. Erbyn hyn, roedd Hiram Davies wedi cyrraedd fel preifat yng Nghwmni “A” y 10fed Bataliwn, wedi ymdeithio o Friesmont ger Albert, wedi deufis gyda’r 19fed Cymreig, yn twneli dan linellau’r gelyn. Bu’r Cwmni’n ymdeithio er 26ain o Fehefin, pan adawon nhw Richonsart. Felly’r bwriad gwreiddiol oedd i’r 10fed ymosod ar y goedwig.

Ymosododd Cwmni A y 10fed Mintau’r Catrawd Cymreig (sef cwmni Hiram) o Gwys Wen ar fore Llun y 10fed o Orffennaf am chwarter wedi pedwar. Defnyddiwyd dwy frigad - y 113ydd (Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig) tua’r chwith; a’r 114ydd (Brigad Hiram) tua’r dde - a’r  17fed Adran (Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig) yn cynorthwyo ar yr ystlys chwith.

Cynllun syml oedd i’r fenter: ymosodiad o’r blaen dros dir agored, lawr o graig Cwys Wen, wedyn lan y llethr tuag at y wig. Doedd dim tactegau i dwyllo’r gelyn.

Pan orchmynwyd yr ymosodiad, symudodd tri bataliwn (gan gynnwys un Hiram) lawer y graig ac i ganol glaw o arfau a saethau o fwledi a llwyddiant annisgwyl.

Erbyn 11 y bore, roedd yr wyth bataliwn yn ymladd ynghanol y goedwig. Symudodd y frwydr yn ei blaen yn ffyrnig. Ond erbyn 6.30 y prynhawn, roedd yr Adran o fewn 40 llath i ymyl ogleddol y fforest.

Er mwyn osgoi saethu ail linell yr Almaenwyr, tynwyd y milwyr ‘nol 200 llath i’r goedwig lle arhoson nhw yn eu tyllau dros nos.

Aeth ymosodiad y bore wedyn a’r Adran yn agos i fan bella’r fforest, ond bu’n rhaid tynnu ‘nol er diogelwch.

Y noson honno, fe adawodd yr Almaenwyr y goedwig a’i gadael yng ngofal y Cymry blinedig. Roedd y 38fed wedi gyrru milwyr gorau’r Almaen o goedwig mwya’r Somme.

Drannoeth, daeth eraill i gymryd lle’r 38fed. Ar ddechrau’r frwydr, ymdeithiodd 4 bataliwn y 38fed i’r goedwig yn canu caneuon; ymdeithion nhw oddi yno’n dawel, heb ddigon o filwyr i ffurfio’r un bataliwn, a gadael 4,000 o ffrindiau a chydfilwyr yn farw, neu’n anabl ar gadfaes Coedwig Mamets.

Codwyd cofeb Mamets ym 1987 ar ffurf draig yn herio’r goedwig er mwyn dathlu dewrder milwyr Cymreig yng Ngorffennaf 1916. Codwyd y gofeb ar gost  Cymdeithas Ffrynt y Gorllewin ac fe wellhaodd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad hi ym 1998.

Dyma nifer colledig y 38fed Adran:

  • Lladdwyd              602
  • Ar goll                   585
  • Wedi Anafu         2806

Cyfanswm                       3993


Cyfnod yn y ffosydd yn Ffrainc a brwydrau yn Ypres yn Belg oedd bywyd Hiram yn 1917, ac wrth gwrs yn cael ei gwenwyno gan nwy mwstard yn Armetieres, ond dyma beth oedd bywyd milwrol yn y ffosydd yn y Rhyfel Mawr.

Ar dydd Mawrth 31 o Orffennaf, fe fu Hiram yn ymladd yn Brwydr Pilckem, yn ardal Passchendaele, a oedd yn cymal cyntaf Trydedd Brwydr Ypres. Mae’r dyddiad yma a’r brwydr yma yn rhan annatod o hanes Cymru, yn arbennig hanes llenyddiaeth a hanes Eisteddfodol Cymru. Yn Brwydr Pilckem cafodd Preifat Ellis Humphrey Evans, o’r 15 mintau o’r Fiwsaliers Brenhinol Cymreig ei clwyfo’n marwol, yn un o 31,000 o filwyr a fu farw y diwrnod ni, fe disgrifiodd Haig y diwrnod fel “a fine day’s work”. Ellis Humphrey Evans oedd Hedd Wyn, mab Evan a Mary Evans o fferm Yr Ysgwrn, ger Trawsfynydd, Bardd y Gadair Ddu o Eisteddfod Geendlaethol Birkinhead 1917. Efallai mae ffawd a penderfynnodd fyddai enw Hedd Wyn yn gysylltiedig a gwlad Belg, oherwydd ffoadur cynnar y Rhyfel o Belg, sef Eugene Van Fleteren a cerfiodd y Gadair ar gyfer yr Eisteddfod. Mae Hedd Wyn wedi ei claddu yn Mynwent Coedwig Magnelau, Boezinge, Ieper, West Vlaanderen, Belg.

Yn ystod 1917 fe fu farw lysfrawd Hiram, sef Illtyd, aelod o’r 8fed Mintau y South Wales Borderers. Fe annwyd Illtyd Williams Davies yn 3 Gwendoline Terrace, Llwydarth, Maesteg ar y 1af o Chwefror 1894. Yn ol ei tystysgrif geni ei fam oedd Mary Jane Davies (sef mam Hiram), ond doedd dim cofnod o’r tad. Damcaniaeth yr awdur yw fod, Illtyd wedi ei enwi ar ol ei dad, oherwydd Illtyd Williams oedd yr enw a defnyddiodd I cofrestri gyda’r byddin, ac hefyd dyma’r enw sydd ar ei carreg fedd. Mae’n debyg oedd Illtyd yn tipyn o embaras I’r teulu, mae erthyglau yn y Glamorgan Gazette sy’n son am Hiram, yn son am Illtyd fel ei lysfrawd (h.y. nid yn cofnodi ei enw, hyd yn oed ar ol iddo farw), mae mwy o parch yn cael ei rhoi I cefnder Hiram sef Albert Joseph Rees a fu farw o twymyn yn Selonica yn mis Ionawr 1918. Nid oes cofnod o Illtyd yn Census 1901, ‘R oedd aelodau teulu Hiram yn byw yn 1,2, a 3 Gwendoline Terrace. ‘Roedd mam Hiram sef Mary Jane Morgans (wedi ail briodi) yn byw yn rhif 1 gyda’I gwr a tri o blant, ond nid oedd Illtyd yno, ‘roedd ewythr Hiram (sef brawd ei fam) a’I teulu yn byw yn rhif 2 ac ‘roedd Hiram yn byw gyda’I famgu a’I tadcu yn rhif 3. Er hyn I gyd mae’n debyg fod Hiram yn agos at ei frawd, ac fe ymunodd y ddau y fyddin gyda’I gilydd ar yr 11fed o Tachwedd 1914. Fe cofrestrwyd y ddau ohonynt gyda’r 10fed Mintau y Catrawd Cymreig Illtyd yn 21689, a Hiram yn 21690.0Yn anffodus mae’r awdur methu darganfod pam na phryd y gwahanwyd Hiram a Illtyd.

 Fe glanniodd yr 8fed Mintau y SWB (South Wales Borderers) yn Selonica ar y 12fed o Tachwedd 1915 gyda’r pwrpas I cynorthwyo byddin Serbia yn erbyn byddinoedd yr Almaen, Awstria a Bwlgaria. Er nad oedd llawer o brwydrau ffyrnig I gymharu a Ffrainc a Belg, ‘roedd nifer o brwydrau bach, ac yn un o rhain cafodd Illtyd ei ladd gyda dau milwyr arall yn Brwydr Dorain ar yr 8fed o Fai 1917,ond  yn 23ain oed. Gan ei fod yn frawd fy nhadcu, gan fy mod yn rhannu yr un enw, ac hefyd er mwyn cofio ei aberth , trwy cymorth y Lleng Prydeinig, rhwy’n trefnu fod torch o flodau gyda neges yn y Gymraeg yn cael ei rhoi ar ei fedd ar yr 8fed o Fai pob blwyddyn.

Fe fu Hiram yn ymladd yn sawl brwydr yn trydydd Brwydr Ypres, ac fe fu rhaid iddo byw twy’r mwd a’r llacs a’r tywydd hunllefys yn ystod yr haf a’r hydref a oedd yn nodweddiadol  o’r ardal yna o Belg yn 1917. Fe cafodd brwydr Ypres effaith mawr ar y 10fed Mintau oherwydd o’r niferoedd a lladdwyd yn Trydedd Brwydr Ypres, fe ddiddymwyd y 10fed Mintau ar y 3ydd o Chwefror 1918, a trosglwyddo’r ychydig oedd ar ol I’r 13 Mintau, yn ystod yr un amser fe aeth  Hiram yn ol I Faesteg am pythefnos o “leave”.

Fe soniodd erthygl yn y Glamorgan Gazette ar ddechrau Chwefror 1918 fod noson o dathlu a cefnogaeth I filwyr wedi cael ei gynnal yn tafarn y King’s Head yn Llwydarth gyda Corpral Hiram Davies fel y prif westai. Dyma’r tro cyntaf I Hiram ddod gartref ers I Illtyd a’I cefnder Albert marw, hefyd ‘r oedd e newydd dioddfed misoedd o uffern yn mwd a llacs Ypres. ‘Roedd Hiram yn teimlo’n isel iawn! Pan daeth y diwrnod I ddychwelyd I Ffrainc fe ddywedodd Hiram wrth ei famgu nad oedd e yn mynd yn ol I Ffrainc. Fe geisiodd ei famgu i pherswadio ei wyr I dychwelyd I Ffrainc, nid oherwydd o rhyw teyrngarwch  I’r Deyrnas, ‘r oedd hi wedi colli dau o’I wyrion yn barod, ond oherwydd ‘r oedd hi’n gwybod fe fydda Hiram yn cael ei saethu fel “deserter” os oedd e ddim yn dychwelyd. Fe rhoddodd ei famgu arian I cyfeillion Hiram fel allent cymryd Hiram I tafarn y Railway yn Pontrhydycuff (perchennog y tafarn oedd ewythr Hiram, ac ‘roedd o fewn tafliad carreg I orsaf tren Llangynwyd), sicrhau fod Hiram yn feddw gaib, ac wedi iddo cwympo I gyscu rhoi e ar y tren I’w dosbarthu yn ol I maes y gad yn Ffrainc.

Fe ail ymunodd a’r lladdfa fel aelod o’r 13 Mintau o’r Catrawd Cymreig, yn cadw 1 bwled yn poced ei frest, ac yn barod defnyddio’r bwled I ladd ei hunan os oedd rhaid iddo dioddef Nadolig arall yn y lladdfa.

Anrhydeddwyd y D.C.M. i swyddogion Gwarant, swyddogion Comisiwn, yn gwasanaethu yn unrhyw cangeng o’r gwasanaethau milwrol Prydeinig a’r Gymanwlad. Y D.C.M. yw’ ail anrhydedd milwrol Prydeinig a’r Gymanwlad (Victoria Cross yw’r Cyntaf) am ymddygiad amlwg yn brwydr.

Anrhydeddwyd 5 milwr o Gwm Llynfi a’r D.C.M. yn y Rhyfel Mawr 1914 -1918, John Francis O’Brien D.C.M., M.M. Ffiwsilwyr Brenhinol Dulyn, Daniel Casey D.C.M., David Rees D.C.M., Morgan Llywellyn Bowen D.C.M., a Hiram Davies D.C.M. o’r Catrawd Cymreig.

Anrhydeddu 21690 H. Davies (Maesteg) a’r D.C.M.

Pan oeddwn yn blentyn, byddai fy nhad David Davies weithiau’n arddangos y medalau i’m brodyr Steffan, Ffransis, Owain, fy chwaer Mair Non a minnau. A phan ofynem, “Am beth oedden nhw wedi rhoi’r medalau iddo fa?” ‘byddai fy nhad yn chwerthin wrth gofio’r ateb a gawsai yntau’n blentyn. Difynai ei dad yntau a’r geiriau “Am fyta’r blydi bwyd uffernol, o’ nhw weti rhoi i ni!”.

Anrhydeddwyd Hiram a’r DCM am ei waith yng Nghoedwig Delville, (neu “Coedwig y Diafol” chwedl y milwyr am y goedwig) yn ystod y gwthiad mawr yn mis Awst 1918, a arweiniodd drachefn at y Cadoediad ar 11eg Tachwedd 1918. Mae’r Bois Delville (neu d’Elville) yn ardal o goedwig tua chilomedr sgwar ar gyrrion pentre Longueval yn y Somme. Roedd ym meddiant 9fed Cyngrhair o’r Gatrawd yr Alban rhwng Gorffennaf ac Awst 1914. Aeth i feddiant y gelyn erbyn Ebrill 1918. Cymry’r 38fed a gipiodd y goedwig eto ar 28ain Awst 1918, er colli 52 o filwyr.

Dyma’r geiriau a ddatganwyd yn ffurfiol ar y 26ain Medi 1918:
“No 21600, Corporal HIRAM DAVIES,
                13th Welsh Regiment.

Decoration: - DISTINGUISHED CONDUCT MEDAL.

For gallantry, and initiative on 27th Aug. 1918 during the attack. When the attack was temporarily checked by heavy M.G. and rifle fire, this N.C.O. at once organised a bombing party and led them against a nest of three Machine Guns, whish he skilfully out-manoeuvred and bombed, killing many of the teams and causing the surrender of the remainder. This greatly helped the advance to continue.”

Dywed y datganiad yn y London Gazette (y dataganiad swyddogol i’r cyhoedd) ar y 15fed o Tachwedd 1918:

“21690 Cpl. H. Davies, Welsh R. (Maesteg).
When the advance was checked by the fire of three machine guns he at once organised and led a bombing party, which he skilfully manoeuvred to within short distance of the nest of machine guns. Shortly afterwards the advance progressed without opposition. His determined and gallant behaviour was worthy of very high praise. “ 

Cyhoeddodd y Glamorgan Gazette ar 25ain o Hydref 1918:
“Maesteg Sergeant Wins D.C.M. – The many friends of Sergt. Hiram Davies, of the 13th Welsh, will be pleased to learn of the honour which he has gained by winning the D.C.M. for bravery on the field. Sergt. Davies previously lived with his grandmother, Mrs Rees, 3 Gwendoline Terrace, Maesteg. He was employed at Garth Celtic Colliery, and joined the colours at the outbreak of war. He was a very popular personality at Maesteg. “

Dyma erthygl a ysgrifennodd fy nhad David Davies I’r Hogwr, (Tachwedd 1995) yn olrhain hanes anrhydeddu Hiram:

hiram davies

“ Yr oedd yn 1919 cyn iddo ddychwelyd yn derfynol,yn dristach onid yn gallach dyn. Fe fu farw fy nhad pan nad oeddwn i ond pedair ar ddeg oed a bu perthynas agos rhyngom pan oeddwn i’n blentyn – a pherygl, efallai, i mi ramanteiddio tad a gollwyd. Serch hynny, fe fum wrthi’n ceisio olrhain, mor wrthrychol a oedd yn bosibl, beth o hanes ennill y fedal.

O’i dystiolaeth ef, a’r dynion eraill a oedd gydag ef yn y ffosydd, y mae’r darlun a geir yn wahanol i’r citation. Y mae’n debyg nad oedd yr ymgyrch wedi dechrau pan ddaeth cyflenwad newydd o fechgyn dwy ar bymtheg a deunaw oed o gymoedd y De – a phob un ohonynt yn edrych ymlaen yn awchus am weld action. I’r dynion a oedd wedi goroesi dwy flynedd yr oedd yn amlwg mai dyma fyddai action diwethaf y bechgyn unwaith y deuai’r gorchymyn i symud ymlaen. Yr oedd tair nythiad o ynnau buan yn gallu taflu rhwyd o dan ar draws y tir o flaen y ffosydd ac i’r diriogaeth angheuol honno y disgwylid i’r bechgyn fynd.

Nid oedd dim byd amdani felly ond symud y gynnau buan. Yn ol y citation yr oedd bombing party. Yn ol ei dystiolaeth ef a thystiolaeth eraill a oedd yno – aeth ar ei ben ei hunan. Yn ei farn ef, yr oedd gwell cyfle gan un dyn yn symud yn dawel.

Yr oedd ar goll o’i uned am ddau ddiwrnod a’r sibrwd ar led iddo gael ei ladd, eithr erbyn i’r gorhymyn ddod i fynd “over the top” yr oedd wedi dychwelyd. Arhosai digon o beryglon ar ol i wynebu’r glalanciau on fel y dywedodd ef ei hun; “O’wn i’n gallu wynepu mamau’r crots ‘na a gwetyd: “yr hyn a allwn, mi a’i gwnaeth.”

Welsh dragon memorial

Y mae’r ddau fersiwn yn enghraifft o’r gagendor sydd rhwng amgyffred y dyn cyffredin o sefyllfa ac ymgyffred yr oruwchwyliaeth. Yr oedd Hiram Davies yn un o’r rhai ffodus a lwyddodd i ddychwelyd o’r rhyfel. Yr oedd ei lysfrawd, Illtyd, yn llai ffodus, fe fu farw yn Selonica, yn aelod o’r South Wales Borderers.

Digwyddiadau digon brawychus yw pob rhyfel a phob un yn rhoi bod i wrhydri a ddioddefaint. Y mae’n fuddiol i ni’ gofio’r rhai a wnaeth aberth eithaf ynddynt, ac mae yr un mor fuddiol i ni sicrhau y gwneir yr hyn a ellir i leddfu dolur y rhai sydd yn dioddef o ganlyniad i’r rhyfeloedd. Dyna pam y byddaf i’n gwisgo pabi coch ag arddeliad er cof am fy nhad ac er mwyn cyfrannu at leddfu dyddiau’r gweddill sy’n dal i ddioddef.”

Yn anffodus nid oedd y Cadoediad ar y 11fed o Dachwedd 1918 yn diweddglo brwydrau Hiriam, r oedd y brwydrau yn erbyn afiechyd oherwydd ei amser yn y rhyfel a’i brwydrau  yn erbyn bearaueratiadd haerllug (gweler y llythyrau amgaedig) yn brwydrau a collodd, pan bu farw yn ysbyty Maesteg ar Fehefin 16ed 1943 yn 55 mlwydd oed.

  Wrth ymchwilio rhan o fywyd  Hiram Davies, dw’i wedi sylweddoli’r hypocratiaeth sydd ymysg yn ein cymunedau heddiw. Nid gwleidyddwyr, cadfridogion na arweinwyr gwledydd sy’n cyfrifol am ein rhyddid yr ydym yn mwynhau,(rhyddid i drafod, rhyddid i pleidleisio etc) ond pobol fel Hiram Davies a’r miliwnau o bobol dros y byd a oedd yn fodlwn aberthu eu bywydau er mwyn i’r cenedlaethau yn y dyfodol i fwynhau eu rhyddid. Braint a enillwyd gan y pobol arbenig yma.

   Mae geiriau “ Hen Wlad Fy Nhadau”, yn gymwys i adlewyrchu aberth y popol yma,nid dim ond y Cymry, ond yr holl bobol trwy gydol y byd a oedd yn fodlon gwneud yr aberth eithaf er mwyn rhyddid
 
 “ Ein gwrol rhyfelwyr,
 Gwladgarwyr tra mad,
 Dros Rhyddid gollasant eu gwaed”

hiram davies blackpool postcard

Diary 1916
Name           Hiram Davies
Address       A Company
                   The 10 Welsh
Height          5ft 4ins
Weight         12st 10lbs

Memoranda
“Left Winchester 2/12/15 Landed at Havre Dec 3 Left Havre Dec 4 Reached Harthis Dec 5 Left Harthis Dec 13 and went into the trenches at Richburg the same night come out of trenches Dec17 Left Richburg for St Floris Dec12.”

Jan 5 Wed
Left St Floris and marched Levente.

Jan 6 Thurs
Left Levente for the trenches for forty eight hours

Jan 7 Fri
Trenches

Jan 8 Sat
Left trenches for forty eight hours rest

Jan 9 Sun
Rest accident G. Jones shot

Jan 10 Mon
Went into trenches for forty eight hours

Jan 11 Tues
Trenches

Jan 12 Wed
Under heavy shell fire

Jan 13 Thurs
Marched from Laventie to Hamet Billt sixteen mile march

Jan 21 Fri
Marched from Hamet Billt and had a nights rest near Veille Chapelle

Jan 22 Sat
Went into trenches for four days near Neuve Chapelle

Jan 26 Wed
Come out of trenches

Jan 27 Thur
My birthday

Jan 31 Mon
Marched to Locon

Feb 8 Tue
Marched from Locon and went into trenches the same night for four days near Richbourgh

Feb 12 Sat
Went back to the reserve for four days

Feb 16 Wed
Went into the trenches (… Richbourgh)

Feb 20 Sun
Came out of trenches for four on reserve

Feb 24 Thur
went into trenches for four days near Richbourge

Feb 27 Sun
Came out of trenches for four days in reserve

March 2 Thur
Went into trenches for four days (?) Richbourge

Mar 5 Sun
Got attached to the 19th Pioneers and stopped near Bethune

Mar 7 Tue
started work in mines at Gavinshy (Givenchy)

Apr 15 Sat
Finished work at Gavinshy (Givenchy)

Apr 16 Sun
Marched from Bethune to Laventie

Apr 17 Mon
Went into mines at Lavantie

June 10 Sat
Left Lavantic and went to Bussus

June 13 Tue
Marched from Rosnes to Aa(?)spelle and stopped the night

June 14 Wed
Marched from Aachatt (? Auxi-leChau? - )to Richonsart

June 26 Mon
Left Richonsart for a twenty two mile march

June 27 Tuesday Reached Neuvivillette in the morning and left the same night

June 28 Wed
And marched Fianville in the morning

June 30 Fri
Marched from Fianville

July 1 Sat
And marched Rubempre in the morning

July 2 Sun
Left Rubempre and marched to Puchevillers

July 3 Mon
Left Puchevillers and marched to Franvillers

July 4 Tue
Marched from Franvillers to Heilly

July 5 Wed
Marched from Heilly to the fighting area near Allurt        (added:) Friesmot (? Friescourt?)

July 10 Mon
Charged for the Wood and went half way Hammity Wood (Mametz Wood)

July 11 Tue
Still in the Wood and went night through

July 12 Wed
Got relieved from the Wood in the morning
(other writing vague)     …. And went to V…(?Varennes?)

July 13 Thur
And went tramping round and stayed night in Dom…

July 15 Sat
Reached Couins and stayed the night

July 16 Sun
Went into the trenches at Hubathone (? Hebuterne?)on the left of Albert

July 19 Wed
Come out of the trenches and in reserve

July 23 Sun
Went into the trenches at the same place

July 28 Fri
Came out of the trenches and marched back to huts in a place called Authie
(? Acheux? / ? Achiet?)

July 30 Sun
A long march interim at Douthon

July 31 Mon
Long march to Bollezeelle

Aug 2 Wed
A stiff march to Wormhout

Aug 3 Thur
Started a course of machine gun

Aug 6 Sun
Marched into Belgium and stopped under canvass near Poperinghe in the Ypres district

Aug 8 Tue
Went into the trenches to work with RE

Aug 12 Sat
Finished the course of machine gun

Aug 15 Tue
Went into the trenches at Ypres for four days

Aug 16 Wed
A gas attack

Aug 19 Sat
Come out of trenches

Aug 22 Tue
Went into the line on working party for one night

Aug 23 Wed
Went into the trenches at Ypres for four days

Aug 27 Sun
Come out of the trenches

Aug 29 Tue
Went for a course of machine gun to Etaples

Sept 5 Tue
Returned from course of machine gun           (Ypres)

Sept 6 Wed
Went into the line for four days

Sept 10 Sun
Come out of the trenches

Sept 14 Thur
Went into the line for four days

Sept 18
Come out of the line

Sept 22 Fri
Went into the line for four days

Sept 26 Tue
Come out of the line

Sept 30
Went into the line for four day

4 Oct Wed
come out of the line

Oct 8 Sun
Went into the line for four day

Oct 12 Thur
come out of the line

Oct 16 Mon
Went into the line for four day

Oct 20 Fri
come out of the line for four days

Oct 24 Tues
Went into the line for four days

Oct 28 Sat
come out of the line for four days

Nov 1 Wed (In diary, printed    “Holiday on Stock Exchange
                                                Fox Hunting begins”)
Went into the line for four days

Nov 5 Sun
come out of the line for four days

Nov 9 Thur
Went into the line for four days

Nov 13 Mon
come out of the line for four days

 

Memoranda

But                   stock    bridge               cover
Triangle            sight     rebound            ???
Pint                  spring   prong               put and?
Pistol                grip      plung                seer

Boots
37-38 High St., Winchester      (the likely place where the diary was bought)

Extract from letter written by Hiram Davies DCM circa February 1930 to the Ministry of Pensions re cancellation of War Pension

B. Gastritis caused through Gas contracted on active service Ypres 1916 Armetier’s 1917 Albert 1918.

C. Every time I was gassed it effected my stomach + caused vomiting. I had cause to be operated upon in July 1927 and Pneumonia set in after Surgery all through gas on my chest according to the doctors + matron at the hospital. I required a second operation and the doctors said they could not give me choloform + they had to operate without owing to the gas on my chest.

D. I am now unable to follow any employment owing to my illness. I applied in Nov 1923 for another board + was refused by ministry of pensions Area Sub office Port Talbot owing that I had lost on a final tribunal

F. I was a healthy man going to the army not knowing what it was to have a days illness + now I cannot do any work + have had to go to the gaurdians for maintenance.

 

This web site is designed, maintained and promoted by Wales Web Design © Exposure 2000 Ltd